Music World
 
Find Artists:
 
 
 
Russian versionSwitch to Russian 
Gruff Rhys
Gruff Rhys


Background information
Birth name Gruffydd Maredudd Bowen Rhys
Born July 18, 1970
Born place Haverfordwest, Pembrokeshire, Wales
Origin Bethesda, Wales
Genre(s) Alternative Rock
Years active 1988—present
Label(s) Rough Trade Records
Team Love Records
Associated acts Gorillaz
Super Furry Animals
Ffa Coffi Pawb
Neon Neon
Mogwai
Boom Bip
Website Website



Music World  →  Lyrics  →  G  →  Gruff Rhys  →  Albums  →  Yr Atal Genhedlaeth

Gruff Rhys Album


Yr Atal Genhedlaeth (01/24/2005)
01/24/2005
1.
Yr Atal Genhedlaeth
2.
3.
Epynt
4.
5.
6.
7.
8.
9.
10.
11.
Chwarae'n Troi'n Chwerw
. . .

Yr Atal Genhedlaeth

[No lyrics]

. . .


Gwn mi wn fod y byd yn grwn Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn Dw i'n saethu ngair fel bwled o wn Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn Fi ‘di Glyn Kysgod Angau A fi ‘di D. Chwaeth Mynd i bob twll a chornel fel tywod ar y traeth Saethu ein brawddegau gyda bwa a saeth Llenwi ein bywydau a daioni a maeth Gwn mi wn fod y byd yn grwn Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn Dw i'n saethu ngair fel bwled o wn Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn Bwyta creision yd gyda chwrw nid llaeth Brwydro i ryddhau ein cyfeillion sy'n gaeth Heb honni fod ein bywyd yn well nag yn waeth Na'r bobl sydd yn derbyn ein geiriau ffraeth Gwn mi wn fod y byd yn grwn Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn Dw i'n saethu ngair fel bwled o wn Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn EPYNT: e Epynt, Epynt Mae'r dewis yn dod yn gynt ac yn gynt Wyt ti isho brenhines Neu hen awdures? Epynt, Epynt Calonnau'n curo yn gynt ac yn gynt Wyt ti isho dyfodol? Neu dim ond gorffennol? Gwario, gwario Beth sy'n well gen ti wario, wario? Dy blastig neu bapur, Neu dim o gwbl. Dewis, dewis Dyro i mi fy newis, newis. Dw i'n dewis dim, Dim dime, dim

. . .

Epynt

[No lyrics]

. . .


O dyro i mi Ragluniaeth Ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a'r awel fwyn A phan ddaw'r amser i gael fy marnu O! Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i'r achosion da, Ac er yr holl deithio, Y llwgr-wobrwyo, Y cyffuriau caled, Y merched o bedwar ban Dw i wedi hen flino Ar fy mhwdr areithio, Yr holl ddanteithio, Fy mrad o iaith y nef, Y rhegi cyhoeddus, Y lluniau anweddus, Fy nghabledd o flaen y groes, Yr hunan-dosturi, Y cwrw a'r miri, Fy ofer-ymffrostio, Tra'n rhostio yn y gwledydd poeth. A phan ddaw'r cyfweliad, Erfynaf am fynediad, Drwy lidiart y nefoedd I'r cyfoeth ar yr ochr draw.A chym i ystyriaeth, Er gwaethaf fy mhechodau, Fy holl rinweddau, Sy'n rhifo ar un llaw. Ond beth bynnag dy farn, Erfynaf am: Ragluniaeth ysgafn, Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a phluen dryw

. . .


Pwdin Wy, Pwdin Wy,Wyt ti'n caru fi mwy na dy gariad d'wetha? Ti'n gwybod be i 'neud pan dw i eisiau mwythau. O! Pwdin Wy, Dw i isho mwy a mwy Pwdin Wy, Pwdin Wy Mae'r meddygon yn dweud dylswn fwyta ffrwythau, Dw i ddim eisiau triniaeth gas na phwythau. O! Pwdin Wy Dw i isho mwy a mwy a mwy a mwy, Mwy a mwy a mwy a mwy. Pwdin Wy Pwdin
Wy Mae fy nghalon yn drwm gyda ngofidion Dw i'n poeni am y coryn mawr a'i bigion O! Pwdin Wy Dw i isho mwy a mwy amwy a mwy...

. . .


Pwdin Wy, Pwdin Wy Gelyn yw dy glwy Pwdin Wy, Pwdin Wy, Misoedd o dy blwyf Unig yw dy gri, Unig yw dy gri, Deud dy ddeud, dwed dy wir, Dan dy wynt, Pa mor unig yw dy gri? Dyna ni, dyna ni, Dyna 'i diwedd hi Cofia fi, cofia ni, Terfyn dirion ddu Hwyrnos dirion ddu, Hwyrnos ddu a fu, Deud dy ddeud, dwed dy wir, Dan dy wynt Pa mor unig yw dy gri? Unig yw dy gri, Unig yw dy gri, Deud dy ddeud, dwed dy wir, Dan dy wynt, Pa mor unig yw dy gri? Pa mor unig yw ein cri?

. . .


Ble mae'r gwybodusion? Chwilio am atebion Ble mae'r mor-ladron? Lladrata'r moroedd dyfnion! Gwybodusion, Ble mae'r gwybodusion?

. . .


Adeiladau mileniwm, Mewn ffug alminiwm, Goruwch-ystafelloedd Am hanner miliwn o bunnoedd. Tyfwn adenydd Tra'n yfed Ymennydd, Mewn tafarndai thema A dim golwg o'r Wyddfa Dw i'n byw a bod Dw i'n byw a bod Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod Coffi ewynnol, Cyflog derbyniol, Argae uffernol, Sgidiau ffasiynol, Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion, Cyhoeddus, anweddus, Sefyllfa druenus. Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod, Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod Dw i'n rhan o'r atal genhedlaeth, Ymfudwn o amaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod, Arnofio yn y bae,Yn y baw a'r dod

. . .


Codi'n fore i osgoi'r lli, Moduro'n gyflym i bendraw'r byd. Deffro'n fore mewn dinas bell, Cynefino mewn cwmwl saethug. Pen y daith, Hiraeth, Ambell waith. Llygru'r moroedd gwyrddion llawn pysgod prin, Malu'r awyr a
Phoeni dim, Credwn bopeth ar y teledu a gwyn, Nodwn fod y byd mewn lliwiau, Ambell waith, Hiraeth, Ambell waith

. . .


Ni yw y byd, Ni yw y byd, Glynwn fel teulu achos Ni yw y byd. Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Paratown am chwyldro achos Ni yw y byd.
Ni yw y byd, Ni yw y byd, Yfwn ein cwrw achos Ni yw y byd. Ni yw y byd dewch bawb ynghyd, Lluchiwn ein gwydrau achos Ni yw y byd Ni yw y byd, Ni yw y byd, Carwn ein gelynion achos Ni yw y byd. Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Tynnwn ein dillad achos Ni yw y byd. Ni yw y byd, Ni yw y byd, Dryswn ein cyfoedion achos Ni yw y byd. Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Gwaeddwn yn llawen achos Ni yw y byd. Fyny! Fyny! Fyny! Fyny! Fyny! Ni yw y byd, Ni yw y byd, Neidiwn i'r awyr achos ni yw y byd Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Chwalwn ddisgyrchiant achos Ni yw y byd, Rowliwn yn y rhedyn achos Ni yw y byd. Rhyddhawn ein penblethau! Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Paratown am chwyldro achos Ni yw y byd

. . .

Chwarae'n Troi'n Chwerw

[No lyrics]

. . .


blog comments powered by Disqus



© 2011 Music World. All rights reserved.